Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Tachwedd 2022

SL(6)273 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Drafft Negyddol

Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Rheoliadau 2022 yn ei gyfarfod ar 26 Medi 2022 a chyhoeddodd adroddiad yn cynnwys pwyntiau technegol. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2022 i gywiro’r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwnnw.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 24 Hydref 2022

Fe’u gosodwyd ar: 25 Hydref 2022

Yn dod i rym ar: 30 Hydref 2022